OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1905 (Cy. 277)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1905 (Cy. 277)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 11 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Tachwedd 2015
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi([1]).
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu
Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2015 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr
2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992([2]).
Diwygio Rheoliadau 1992
2.—(1)(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn
perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1
Ebrill 2016 neu ar ôl hynny.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
11 Tachwedd 2015
YR ATODLEN Rheoliad 2
“SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area |
Prescribed figure |
Blaenau Gwent |
55,722 |
Bridgend |
112,178 |
Caerphilly |
141,099 |
Cardiff |
281,207 |
Carmarthenshire |
147,829 |
Ceredigion |
62,875 |
Conwy |
94,564 |
Denbighshire |
75,337 |
Flintshire |
121,644 |
Gwynedd |
98,583 |
Isle of Anglesey |
56,533 |
Merthyr Tydfil |
46,587 |
Monmouthshire |
74,234 |
Neath Port Talbot |
112,590 |
Newport |
113,566 |
Pembrokeshire |
99,000 |
Powys |
107,516 |
Rhondda Cynon Taf |
186,911 |
Swansea |
194,267 |
Torfaen |
72,248 |
Vale of Glamorgan |
100,662 |
Wrexham |
107,275” |
([1]) 1988 c. 41. Diwygiwyd adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41), a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, gan adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a Rhan I o Atodlen 3 iddi.
([2]) O.S. 1992/3238 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy. 47), 2000/3382 (Cy. 220), 2001/3910 (Cy. 322), 2002/3054 (Cy. 289), 2003/3211 (Cy. 304), 2004/3232 (Cy. 280), 2005/3345 (Cy. 259), 2006/3347 (Cy. 307), 2007/3343 (Cy. 295), 2008/2929 (Cy. 258), 2009/3147 (Cy. 274), 2010/2889 (Cy. 239), 2011/2610 (Cy. 283), 2012/3036 (Cy. 310), 2013/3046 (Cy. 305) a 2014/3193 (Cy. 323).